Noson thema De Ddwyrain Asia

Noson thema De Ddwyrain Asia ym Mhlas Brondanw, ar nos Sadwrn yr 22ain o Dachwedd, rhwng 6 a 9y.h.

              Y FWYDLEN

I ddechrau…

…o Fietnam  –  Nem cuon a Nuoc cham ,corgimwch, porc, perlysiau, llysiau amrwd a nwdls fermitseli wedi lapio mewn papur reis gyda dip leim a tsili.

        ..ac o Wlad Thai  –  Laab gaai (cyw iar sbeislyd wedi’i dorri’n fan mewn deilen o letys little gem).

 

Prif bryd…

        ..o Indonesia  –  Rendang cig eidion (cyri poeth sbeislyd, gyda choconyt, tamarind a siwgwr palmwydd)

        Salad (ciwcymer, cneuen goco ffres a tsili coch)

        Reis jasmin wedi’i stemio.

 

Ac i orffen…

..o Indonesia  –  Parffe sinsir a leim ( a siard o doffi tsili)

                                £19.95 y pen

Archebwch yn gynnar i fod yn siwr cael bwrdd, gan ffonio Lowri ar 01766 772772 neu 07584 621152. Gallaf arlwyo ar gyfer llysieuwyr, does mond isio gofyn.