Bydd ein beirdd preswyl, Suzanne Iuppa ac Aled Jones Williams yn darllen o'r gwaith maent wedi ei greu yn ystod eu cyfnod yma gyda'r arddangosfa agored, a bydd cyfle i bobl sydd wedi mynychu'r gweithdai (neu pobl sydd wedi ysgrifennu cerddi am y gwaith o'u pen a'u pastwn eu hunain) hefyd ddarllen eu gwaith os hoffent.
Mae angen cadw lle ar gyfer y digwyddiad yma. Mae tocyn yn £8, ceir paned a chacen yn rhan o bris mynediad.