Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Sgwrs Artist gyda Flora McLachlan

'Just Follow the Breadcrumbs Through the Dark Forest'

17 Gorffennaf 2024: 7pm

Gwneuthurwr printiau yw Flora, mae ei delweddau yn tarddu o'i synnwyr o elfennau chwedlonol ac archeteip yn y tirwedd, fel y'u ceir yn y traddodiad adrodd straeon. Mae hi wedi’i swyno gan sut mae’r storiau yr ydym yn darllen yn ein plentyndod yn effeithio ar ein cysylltiad emosiynol â’r tirwedd yr ydym yn ei brofi.

“Rwy’n mwynhau gweithio gydag olion annisgwyl, i freuddwydio fy nelweddau i fodolaeth. Trwy byrth alcemegol ysgythriad neu lithograff, gallaf fynd i mewn i wahanol fydoedd hudolus a gwneud fy ngwaith yn yr awyrgylch stori tylwyth teg hynny.”

Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfres breswyl Hafod, mewn cydweithrediad â Noelle Griffiths. Mae'r sgyrsiau hyn am ddim i'w mynychu, ac nid oes angen archebu lle.

Bydd Flora hefyd yn cynnig gweithdy 'Gweithdy Print Bychan - gwneud printiau colagraff cerfwedd bach' ar 21 Gorffennaf 3-5pm yn Oriel Caffi Croesor.

Am rhagor o wybodaeth am hyn a gweithdai eraill sy’n cael eu cynnig fel rhan o raglen breswyl Hafod, cysylltwch â Noelle ar hafod.art@hotmail.com.