Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Sgwrs Artist gyda Penny Hallas

'Gweld Trwy’r Tirwedd'

19 Mehefin 2024: 7pm

"Byddwn yn disgrifio fy hun fel artist rhyng-gyfryngol. Er bod lluniadu wrth galon fy ymarfer, rwy'n defnyddio elfennau fideo, taflunio, ffotograffiaeth, sain, peintio a cherflunio, yn aml ar ffurf gwrthrychau wedi eu casglu. Rwy'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau cydweithredol, fel perfformiadau gyda beirdd, dawnswyr, cerddorion ac artistiaid eraill - mewn gofodau celf ac yn y tirwedd.

Beth bynnag yw'r cyfrwng, mae fy ngwaith yn cylchdroi o gwmpas diddordeb yn y cyflwr mewnol o fodoli: yn fyw i ysgogiadau siawns, ffantasi ac emosiwn, mae'n chwilio am gyfatebiaeth rhwng y byd materol a chorneli cudd yr ysbryd.

Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfres breswyl yr Hafod, mewn cydweithrediad â Noelle Griffiths. Mae'r sgyrsiau hyn am ddim i'w mynychu, ac nid oes angen archebu lle. Saesneg yw iaith y sgwrs hon.

Bydd Penny Hallas hefyd yn cynnig gweithdy 'Gweld trwy Dirwedd: gwneud myriorama' ar 30 Mehefin am 3-5pm yn Oriel Caffi Croesor.

Am rhagor o wybodaeth ynglyn a hyn a gweithdai eraill sy’n cael eu cynnig fel rhan o raglen breswyl Hafod, cysylltwch â Noelle ar hafod.art@hotmail.com.