Plas BrondanwYmddiriedolaeth
Susan Williams-Ellis

post@susanwilliamsellis.org

01766 770590

Sgwrs Artist

gyda Lucy Donald

'Torluniau pren wedi'u hysbrydoli gan Mokuhanga yn seiliedig
ar Grochenwaith Cymreig gyda mymryn o Ddiwylliant Pop Cymreig'

29 Mai 2024

"Rwy'n beintiwr, gwneuthurwr printiau, cerflunydd ac athro. Rwy'n Gydlynydd Addysg llawrydd yn Oriel Elysium a hefyd yn gweithio gyda lleoliadau eraill yn Abertawe i ddarparu gweithdai celf ar gyfer pob oed a gallu.

Rwyf wedi defnyddio crochenwaith Cambrian, Llanelli a Nantgarw fel man cychwyn ar gyfer cyfres o luniau dyfrlliw a thorluniau pren. Mae'r gwaith hwn yn archwilio’r ffasiwn am Chinoiserie a’r arferiad o feddianu delweddau o ddiwylliannau eraill i greu tiroedd ffantasïol ar nwyddau domestig.

Yn ystod fy nghyfnod preswyl yn Stiwdio Hafod rwy'n bwriadu gwneud gwaith yn seiliedig ar grochenwaith Portmeirion".

Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfres breswyl yr Hafod, mewn cydweithrediad â Noelle Griffiths.