Digwyddiadau
22
Newid diwrnod yr Helfa Wyau
http://www.bbc.co.uk/weather/2644055
Felly, achos fod yn gaddo glaw mawr dydd Sadwrn, rydan ni wedi penderfyny symud yr Helfa Wyau at ddydd Gwener y 25ain yn lle.
Gobeithio fod hyn ddim yn newid plania bobol gormod ac y byddwch yn dal yn gallu dod!
12 y.h. £2 y plentyn mynediad am ddim i’r gerddi i rieni/ gwarchodwyr.
Dewch a bag, basged neu boned eich hunain.
Dewch yn llu!
10
Tocynnau
Mae tocynnau yn awr ar gael am ein noson cerddoriaeth ym mis Gorffennaf!!
05
Helfa Wyau Pasg
Dewch i fwynhau gerddi hudol Plas Brondanw, a thra ma’r plantos yn hel wyau Pasg gewch chitha fwynhau panad a chacen gartref…….neu wydriad o win a phlatiad o nibls…..neu botal o gwrw neu ddau!!
13
BWYDLEN BLWYDDYN NEWYDD TSEINIAIDD 21ST Chewefror
24
Noson thema De Ddwyrain Asia
Noson thema De Ddwyrain Asia ym Mhlas Brondanw, ar nos Sadwrn yr 22ain o Dachwedd, rhwng 6 a 9y.h.
Y FWYDLEN
I ddechrau…
…o Fietnam – Nem cuon a Nuoc cham ,corgimwch, porc, perlysiau, llysiau amrwd a nwdls fermitseli wedi lapio mewn papur reis gyda dip leim a tsili.
..ac o Wlad Thai – Laab gaai (cyw iar sbeislyd wedi’i dorri’n fan mewn deilen o letys little gem).
Prif bryd…
..o Indonesia – Rendang cig eidion (cyri poeth sbeislyd, gyda choconyt, tamarind a siwgwr palmwydd)
Salad (ciwcymer, cneuen goco ffres a tsili coch)
Reis jasmin wedi’i stemio.
Ac i orffen…
..o Indonesia – Parffe sinsir a leim ( a siard o doffi tsili)
£19.95 y pen
Archebwch yn gynnar i fod yn siwr cael bwrdd, gan ffonio Lowri ar 01766 772772 neu 07584 621152. Gallaf arlwyo ar gyfer llysieuwyr, does mond isio gofyn.
Recent Comments