Rydym yn cynnal rhaglen newidiol o arddangosfeydd trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ceisio arddangos amrywiaeth eang o waith o’r cysyniadol i waith crefft a dylunio, ac rydym yn gweithio gydag artistiaid o bob cwr o’r byd. Rydym yn arddangos gweithiau ar bob math o themâu, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn gwaith sy’n ymateb yn benodol i’r lleoliad a’i hanes ac i syniadau Clough ac Amabel Williams-Ellis a’u plant am am gelf, dylunio, pensaernïaeth, cymdeithas, gwleidyddiaeth, cynllunio, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu unrhyw fater arall a archwilwyd ganddynt yn eu gyrfaoedd hir ac amrywiol.
The whole section below the opening pagagraph, including the drop down sections:
Mae’r arddangosfa ‘Agored’ ac ‘Agored Ifanc’ yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un, boed artist profiadol neu rhywun sy’n rhoi troed yn y dŵr am y tro cyntaf. Byddwn yn gosod thema ar gyfer y sioeau hyn fydd yn amrywio o un blwyddyn i’r llall, ond yn seiliedig ar ddarnau o’r archif, fydd yn cael eu arddangos gyferbyn a’r gweithiau cyfoes. O fewn y rhaglen Agored, rydym yn cynnig gwobr artist sy’n dod i’r amlwg a gwobr y bobl.
Am rhagor o wybodaeth am y gwobrau, a sut i gyflwyno gwaith ar gyfer yr arddangosfeydd agored, dilynwch y ddolen i’r tudalen ‘ceisiadau’, isod.
Rydym wedi penderfynu gosod thema pob blwyddyn o hyn ymlaen. Bydd eitemau o archif Susan Williams-Ellis yn cael eu curadu i gyd-fynd a’r thema ar gyfer y flwyddyn, a bydd hyn hefyd yn ysbrydoli’r thema ar gyfer yr arddangosfeydd Agored ac Agored Ifanc. Rydym yn gwahodd artistiaid sy’n gobeithio cael sioeau unigol neu grŵp i ystyried ymateb i’r thema, os ydyw’n eu hysbrydoli, er nad yw hynny’n ofynnol. Bydd digwyddiadau’n cael eu curadu i gydfynd a’r thema hefyd, ble mae hynny’n addas. Mae’r themâu yn fwriadol eang, a gellid eu dehongli mewn nifer o ffyrdd. Amlinellir y themâu ar gyfer y pum mlynedd nesaf isod:
2024: Trawsffurfiad
2025: Gofod
2026: Anifail / Planhigyn / Mineral
2027: Aflonyddwch
2028: Y Môr
09/03/2024 – 05/05/2024
Thema arddangosfa Agored blwyddyn yma yw ‘Trawsffurfiad’, ac mae gwaith bron i gant o wahanol artistiaid i’w gweld yn y sioe, pob un wedi ymateb i’r thema yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae yma olygfeydd hunllefus, tirweddau heddychlon, hunain bortreadau, cerfluniau, gwaith naratif, gwaith haniaethol, gwaith ffigyrol. Mae’r themâu sydd dan sylw yn cynnwys yr amgylchedd, datblygiad personnol, breuddwydion, hunllefau, trais, rhyfel, cylchoedd bywyd, harddwch natur a hyblygrwydd deunyddiau. Does dim geiriau all ddisgrifio’r amrywiaeth anhygoel a’r talent sydd ar weld yma, mae’n rhaid i chi ddod yma i weld!
13/07/2024 - 01/09/2024
Mae Susan King wedi bod yn treulio amser gyda thecstilau hynafol Affricanaidd, yn astudio'r patrwm, y gwead a'r lliwiau sydd ynddynt. Mae hyn wedi ei hysbrydoli i greu corff o waith sy'n cynnwys deialog rhwng gwehyddu, argraffu a phaentio.
Y nod yw i’r syniadau ddatblygu heb bwrpas penodol, gan ganiatáu proses digymelliant mynegiannol, gydag un cyfrwng yn symud i'r llall ar daith elfennol.
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys cyfres o groglenni wal wedi'u gwehyddu a'u hargraffu, cynfas wedi'i baentio a gwaith wedi ei fframio.
Trwy gydol 2024
Pob blwyddyn, rydym yn dewis thema ar gyfer holl arddangosfeydd Plas Brondanw, yn cynnwys gwaith Susan Williams-Ellis.
11/05/2024 – 07/07/2024
Yn y mil naw chwe degau, creodd Susan Williams-Ellis gyfres o lestri o'r enw 'Cymreriadau Pantomeim', oedd yn seiliedig ar ddarluniau o gymeriadau theatr tegan a gynhyrchwyd gan gwmi Pollock’s yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd y darluniau hyn yn sbardun i Wanda a David, aeth â nhw ar daith o'r pantomeim cynnar i ystyriaeth fwy difrifol o'r masgiau rydyn ni i gyd yn eu gwisgo.
Bydd yr arddangosfa derfynol yn brofiad difyr i bob oed.
13/07/2024 - 01/09/2024
Mae John Rowlands yn byrfyfyrio a chwarae ar y berthynas rhwng cerddoriaeth bur a chelf weledol haniaethol - gydag awgrym o’r darluniadol yn ei ddefnydd o batrymau allweddellau.
26/10/2024 – 16/02/2025
Mae Ruth yn storïwraig weledol o Aberystwyth. Mae hi wedi bod yn arddangos yn eang ledled Cymru a Lloegr ers 25 mlynedd ac mae ei gwaith mewn amrywiol gasgliadau cyhoeddus megis Moma Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae hi'n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer ei naratif mewn amgueddfeydd, mewn gwyliau, arddangosfeydd, digwyddiadau cerddoriaeth byw ac mewn llyfrau. Mae 'Lle lliwgar i freuddwydio' yn gasgliad o collage a darluniau a ddatblygwyd mewn ymateb i Bortmeirion a Phlas Brondanw ac a aned o’i theimlad cryf o berthyn a chysylltiad creadigol wrth ymweld ag ystad Clough Williams - Ellis.